A ddylai'r oedran pleidleisio gael ei ostwng i 16?
Mae barn pobol ifanc Llanbed wedi rhannu tros gael yr hawl i bleidleisio yn 16 ac 17 oed.
Rhyw hanner hanner oedd hi ymhlith disgyblion Chweched Dosbarth yn yr ysgol leol, gyda nifer yn y canol.
Hynny er gwaetha’ llwyddiant y drefn yn yr Alban, lle’r oedd mwy na 100,000 o bobol ifanc 16 ac 17 wedi cael yr hawl i bleidleisio yn y refferendwm annibyniaeth yr wythnos ddiwethaf.
Galw am newid trwy wledydd Prydain
Bellach, mae rhai gwleidyddion wedi galw am oedran y bleidlais i gael ei ostwng ar draws gwledydd Prydain.
Ed Miliband yw un o’r diweddaraf i gefnogi’r syniad, gan ddweud yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddoe y byddai llywodraeth Lafur yn cyflwyno’r newid petaen nhw’n cael eu hethol yn 2015.
Fodd bynnag mae eraill yn llai cefnogol o’r syniad, gyda’r Prif Weinidog David Cameron heb ddatgelu eto a yw’n credu y byddai gadael i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn syniad da.
Pwy well i holi felly na’r bobl ifanc hynny eu hunain? Fe fu golwg360 draw yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed, i holi barn rhai o ddisgyblion y Chweched Dosbarth – ac roedd y farn yn rhanedig ymysg y merched, gyda Sioned o blaid gallu pleidleisio yn 16, Sophie’n anghytuno, a Sulwen ddim yn siŵr.
‘Ddim yn gwybod digon’
Roedd Gethin, sydd yn 17 oed, yn un o’r rhai oedd ddim yn credu’i bod hi’n bryd rhoi’r bleidlais i bobol ifanc 16 ac 17 oed eto.
“Fi jyst ddim yn credu bod y rhan fwyaf o bobol ifanc ein hoed ni’n gwybod digon am wleidyddiaeth i allu pleidleisio eto, fi’n credu bod angen mwy o addysg ynglŷn â’r peth cyn y gallwn nhw wneud penderfyniadau fel yna,” meddai.
Roedd Owain, sydd hefyd yn 17, yn rhannu’r un farn.
“Mae yna beryg os nad yw pobol yn deall digon am wleidyddiaeth pan maen nhw’n pleidleisio eu bod nhw jyst yn dewis pleidiau sydd yn ymddangos yn boblogaidd, heb ddarllen beth yn union yw eu polisïau,” meddai.
‘Hawl i roi eich barn’
Yn ôl Caleb fodd bynnag, sydd yn 17: “Os nad ydi pobol ifanc ddim yn licio gwleidyddiaeth does dim rhaid iddyn nhw bleidleisio”.
Ac mae Oliver, sydd yn 18, yn cytuno ag ef.
“Mae pobol ifanc yn medru gadael yr ysgol yn 16 yn barod, talu trethi, ymuno â’r fyddin – felly ar y pwynt yna ddylech chi gael rhoi’ch barn ar bwy sy’n rhedeg y wlad,” meddai Oliver.
Ychydig mwy petrusgar oedd Chris, 17:
“Os fydden ni’n cael y bleidlais fe fyddai’n rhaid i ni gael gwersi er mwyn deall beth sy’n mynd ymlaen.”