Ystafell gyfarfod y Comisiwn Ewropeaidd
Mae corff sy’n hyrwyddo ieithoedd llai Ewrop wedi rhybuyddio y byddan nhw’n cael eu gwthio i’r ymylon gan drefn newydd yn y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae’n condemnio’r penderfyniad i ostwng statws yr ieithoedd ymhlith y 28 comisiynydd sydd newydd gael eu dewis.
Fe fydd “amlieithrwydd” – sy’n cynnwys hyrwyddo’r ieithoedd llai – yn cael ei roi i mewn yn y portffolio economaidd lle’r oedd gynt yn rhan o’r portffolio diwylliant ac, ar un adeg, yn meddu ar ei Gomisiynydd ei hun.
‘Siom’
Mae’r penderfyniad yn “siom” meddai Llywydd y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, Jannewietske de Vries.
Tra oedd y Rhwydwaith yn cefnogi hybu’r economi ac yn pwysleisio rhan ieithoedd yn hynny, roedd yn pwysleisio bod ieithoedd yn fwy na hynny.
“Mae agwedd y Comisiwn newydd at amlieithrwydd yn golygu canolbwyntio ar y farchnad a defnyddioldeb, agwedd a fydd yn rhoi blaenorieth i ieithoedd mawr ,” meddai.
“Fe f ydd yn gadael nifer rhyfeddol o ieithoedd llai eu defnydd, ieithoedd rhanbarthau neu wladwriaethau bach a ieithoedd lleiafrifol ar yr yr ymylon.”