Y Llyfrgell
Mae gweithwyr sy’n aelodau o dri undeb sector cyhoeddus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn protestio dros amser cinio heddiw.
Pwrpas y brotest sy’n digwydd rhwng hanner dydd ac 1 o’r gloch y pnawn yw tynnu sylw at ffrae am gyflogau yno, sydd wedi bod yn llusgo ymlaen am rai misoedd.
Ar 10 Medi, bu raid i’r Llyfrgell gau oherwydd streic.
Rhewi Cyflogau
Yn ôl yr Undebau mae aelodau wedi gweld eu cyflogau yn dirywio 20% yn eu gwerth oherwydd bod costau byw wedi codi dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae hyn, yn ôl yr Undebau, yn rhoi’r llyfrgell ymhlith y cyflogwyr gwaethaf yn y sector gyhoeddus gyda rhai o’r gweithwyr yn derbyn llai na “chyflog byw.”
Ond mae’r Llyfrgell yn dweud eu bod “yn siomedig,” bod cynnig i godi cyflogau o 3% yn fis Chwefror wedi cael ei wrthod.
Poeni am y dyfodol
Meddai Doug Jones, cadeirydd yr undebau yn y Llyfrgell: “Rydym yn deall bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn nifer o doriadau i’r gyllideb flynyddol dros y degawd diwethaf. “Ond dydi parhau gyda rhewi’r cyflogau ddim yn gynaliadwy, yn enwedig i aelodau sy’n derbyn llai na’r cyflog byw.”
Eu dadl nhw yw mai cynnydd un waith sydd wedi ei gynnig – fydd hwnnw ddim yn cael ei ychwanegu at eu cyflogau o flwyddyn i flwyddyn nac yn effeithio ar bensiynau.
Mae’r brotest yn “gynamserol” meddai’r Llyfrgell, ond dywedodd Doug Jones bod aelodau wedi bod yn “amyneddgar” yn rhoi amser i reolwyr ymdopi gyda’r toriadau.
“R’yn ni’n poeni am ddyfodol y Llyfrgell, ac yn teimlo mai’r unig ffordd gallwn fynd â’r achos ymlaen yw trwy weithredu.”
Roedd yr aelodau’n barod i barhau gyda’r gweithredu diwydiannol yn y dyfodol, gan gynnwys streicio, meddai.
Cyflog byw ‘erbyn Ebrill 2015’
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Llyfrgell heddiw, ond does dim wedi dod hyd yma.
Ar 10 Medi dywedodd y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Aled Gruffydd Jones: “Rydym yn cynnig 3% i’r staff yn barod yn ogystal â swm ychwanegol i weithwyr ar gyflogau isel sy’n cael ei ddyddio’n ôl i Ebrill 2013.
“Mae hyn yn golygu ei bod yn gallu cyrraedd targedau Cyflog Byw, Llywodraeth Cymru erbyn Ebrill 2015.”