Syr Terry Matthews (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae’r gŵr busnes Syr Terry Matthews wedi cael ei benodi’n gadeirydd y bwrdd i arwain prosiect Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Bydd y biliwnydd sydd wedi ennill ei ffortiwn ym maes telegyfathrebu’n disodli cyn-arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips.
Cafodd y penodiad newydd ei gyhoeddi gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart y bore ma, ac fe ddywedodd y byddai Matthews yn “rhoi hwb mawr i’r prosiect Dinas-ranbarthau cyfan”.
Ychwanegodd ei bod hi’n “hyderus y bydd ei arweiniad yn helpu i ysbrydoli a rhoi bywyd newydd i’r prosiect Dinas-ranbarth”.
‘Pleser pur’ meddai Matthews
Diolchodd Edwina Hart i David Phillips am arwain y prosiect hyd yn hyn, gan ychwanegu y byddai’n parhau i fod yn aelod o’r bwrdd.
Dywedodd Syr Terry Matthews ei bod yn “bleser pur” cael bod yn rhan o’r prosiect ac y byddai “dyfalbarhad y bobol sy’n cymryd rhan yn helpu i wella’r ardal yn economaidd”.
Mae cynrychiolwyr o gynghorau Sir Gâr a Phenfro, cyfreithiwr, peirianwyr a phenaethiaid prifysgolion a cholegau’r rhanbarth hefyd ar y bwrdd.