Mae ffigurau newydd yn dangos bod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi methu eu targedau o ran amserau aros unwaith eto.

Daw’r ffigurau diweddaraf yn dilyn addewid gan Lywodraeth Cymru i wella’r sefyllfa o fewn tri mis.

  • Yn ôl y ffigurau, dim ond 56.9% o alwadau a gafodd eu hateb o fewn yr wyth munud sy’n ddisgwyliedig.
  • Mae’r canran wedi gostwng o 58.3% ym mis Gorffennaf, ac o 61.8% ym mis Awst y llynedd.
  • Y nod yw ateb 65% o alwadau o fewn wyth munud.

Poeni am y gaea’

Doedd ffigurau cynddrwg mewn tywydd teg ddim yn argoeli’n dda ar gyfer y gaeaf, meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar.

“Er cael y targed isa’ yn y Deyrnas Unedig am ymateb ambiwlans i alwadau brys, dim ond unwaith y mae’r targed Llafur wedi ei daro yn y ddwy flynedd ddiwetha’,” meddai.

“I glaf sydd wedi cael strôc neu drawiad ar y galon, gall ymateb ambiwlans o fewn wyth munud olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.”

Galw am newid mwy sylfaenol a wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, gan ddweud bod angen uno’r gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau gofal.

Fe fyddai hynny, meddai, yn golygu llai o alw am wasanaeethau brys beth bynnag.

Mae’n dweud y dylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a oedd mewn sellfa debyg yn 2007 – pan ddaeth plaid genedlaethol yr SNP i rym – ond sydd wedi gwella pethau “yn sylweddol” ers hynny.

‘Gwaethygu eto’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi amau gallu Llywodraeth Cymru i gadw trefn ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mewn datganiad, dywedodd fod y Llywodraeth Lafur wedi “pledio” am dri mis i wella’r sefyllfa ond bod y sefyllfa’n “gwaethygu unwaith eto”.

“Faint yn rhagor o amser sydd ei angen ar Weinidogion Llafur cyn iddyn nhw gyfaddef na allan nhw reoli ein gwasanaeth iechyd? Mae’r ffigurau hyn yn annerbyniol,” meddai..

“Mae’n dangos bod y gwasanaeth ambiwlans yn wynebu argyfwng.”