Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi cael ei wawdio gan ei wrthwynebwyr ar ôl cyfadde’i fod e wedi anghofio rhannau o’i araith fawr ddoe.
Dyna oedd yn gyfrifol, meddai, am fethu â sôn am y dirwasgiad economaidd a mewnfudo yn yr araith yng Nghynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion.
Dywedodd Miliband mai “un o beryglon” siarad o’i gof yw anghofio geiriau. Ond roedd yn mynnu, serch hynny, mai’r economi oedd hanfod yr araith gyfan.
Mae’r Canghellor, George Osborne wedi dweud ei bod yn “anhygoel” nad oedd Miliband wedi trafod y diffyg economaidd.
‘Nid cofio sy’n bwysig’
Yn dilyn yr araith, dywedodd Miliband wrth ITV: “Nid cofio’r araith yw’r peth pwysig.
“Yr hyn rwy’n ceisio’i wneud yw ceisio ysgrifennu araith a’i defnyddio’n sail ar gyfer yr hyn rwy am ei ddweud wrth y genedl.
“Ac wrth gwrs, un o’r peryglon yw fod darnau’n cael eu gadael allan ac mae darnau’n cael eu hychwanegu.”
Y disgwyl yw y bydd y methiant yn cynyddu’r drafodaeth am Ed Miliband ei hun wrth i arolygon barn ddangos ei fod yn gwneud yn wael o ran poblogrwydd personol.