Ed Miliband
Fe fydd perchnogion tai drud, cwmnïau tybaco a rhai sy’n osgoi talu trethi yn cael eu targedu er mwyn rhoi hwb ariannol sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd, meddai Ed Miliband.

Yn ei anerchiad olaf i’r Blaid Lafur cyn yr etholiad cyffredinol, dywedodd bod creu system gofal iechyd “o’r radd flaenaf” yn un o’i chwe phrif amcan yn ei gynllun 10 mlynedd i adfer y DU.

Ei brif flaenoriaeth, meddai, fyddai recriwtio 20,000 o nyrsys, 8,000 o feddygon teulu, 3,000 o fydwragedd a 5,000 o ofalwyr fel rhan o system iechyd mwy integreiddiedig.

Fe fydd yr arian yn dod o dreth ar gartrefi drud a dywedodd y byddai modd codi £1.2 biliwn drwy gyflwyno tal blynyddol ar gartrefi sy’n werth mwy na £2 miliwn.

Fe fyddai perchenogion cartrefi sy’n werth degau o filiynau o bunnoedd yn talu swm “sylweddol” uwch, meddai.

Dywedodd Miliband y byddai Llywodraeth Lafur hefyd yn efelychu’r Unol Daleithiau lle mae’r Arlywydd Barack Obama wedi codi ffioedd ar gwmnïau tybaco er mwyn mynd i’r afael a phroblemau iechyd o ganlyniad i ysmygu.

Byddai disgwyl i’r polisi ddod a £150 miliwn y flwyddyn i goffrau’r llywodraeth.

Fe fydd ymdrech hefyd i atal cwmnïau mawr rhag osgoi talu trethi drwy gofnodi’r elw mewn gwledydd arall.

Gwasanaeth iechyd

“Ni fyddwn ni’n benthyg ceiniog i wneud hyn,” meddai. Yn hytrach fe fydd yr arian yn dod o gwmnïau sy’n osgoi talu trethi, cwmnïau tybaco “sy’n gwneud elw ar draul iechyd pobl”, a’r rhai hynny sy’n ddigon cyfoethog i fod yn berchen ar gartrefi mawr, meddai Miliband.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn llithro nôl o dan y Llywodraeth bresennol. Maen nhw’n ei breifateiddio a’i dorri’n ddarnau.

“Nid yw mewn dwylo diogel.”

‘Adfer ffydd’

Fe bwysleisiodd Ed Miliband bod modd creu gwlad “o’r radd flaenaf” heb wario’n sylweddol.

Ei fwriad hefyd yw dyblu nifer y bobl sy’n prynu cartrefi am y tro cyntaf o 400,000 y flwyddyn, hybu nifer y prentisiaethau, a haneru nifer y gweithwyr ar gyflogau isel.

Dywedodd mai helpu’r teuluoedd hynny “sy’n gweithio’n galetach ac yn galetach er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd” oedd bwriad Llafur, a cheisio adfer ffydd pobl.

“Fe allwn ni adeiladu dyfodol gwell i chi a’ch teulu – dyma gynllun Llafur ar gyfer dyfodol Prydain.

Ymateb cymysg

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi croesawu’r ffioedd ar gwmnïau tybaco gan ddweud bod yn rhaid i’r diwydiant dalu am greu “cynnyrch sy’n lladd.”

Ond mae eraill wedi mynegi pryderon am effaith cynlluniau Llafur i gynyddu refeniw drwy’r “dreth ar blastai” gan ddweud na fydd yn codi’r symiau sylweddol mae Llafur yn gobeithio amdanyn nhw.

Yn hytrach na’r dreth ar gartrefi drud, maen nhw’n dweud bod angen diwygio’r dreth gyngor.

Ond mae’r undebau wedi croesawu cyhoeddiad Miliband am ragor o staff i’r Gwasanaeth Iechyd gan ddweud ei fod yn “barod i fod yn Brif Weinidog.”