Dave Lee Travis
Mae Dave Lee Travis wedi ei gael yn euog o ymosod yn anweddus ar ddynes yn 1995.

Cafwyd y cyn-DJ 69 oed yn euog o ymosod yn anweddus ar y ddynes, oedd yn gweithio fel ymchwilydd ar raglen The Mrs Merton Show, ar 17 Ionawr 1995.

Cafwyd Travis yn ddi-euog o ail gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch yn dilyn yr achos yn Llys y Goron Southwark.

Nid oedd y rheithgor yn medru cytuno ar ddyfarniad ynglyn a chyhuddiad arall o ymosod yn rhywiol ac fe gafodd y cyhuddiad yn ei erbyn ei ollwng.

Roedd Travis wedi pledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, gan honni bod y tair yn dweud celwydd.

Hwn yw’r ail achos y mae Travis wedi’i wynebu.

Cafwyd cyn gyflwynydd Top of the Pops – neu David Griffin yn ôl ei enw iawn – yn ddi-euog o 12 cyhuddiad o ymosod yn anweddus yn yr achos gwreiddiol ym mis Chwefror ond fe fethodd y rheithgor â dod i benderfyniad ar ddau o’r cyhuddiadau eraill.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.