Bydd gwaith cynnal a chadw ar Goedwig Pen-bre ger Llanelli yn cychwyn ym mis Medi ac fe fydd rhannau o’r goedwig ar gau i’r cyhoedd.

Mae’r gwaith yn rhan o raglen Cyfoeth Naturiol Cymru i wella coetiroedd Cymru.

Fe fydd y prosiect tri mis yn parhau gyda’r gwaith o deneuo’r goedwig, lle bydd tua 4,500 tunnell o binwydd Corsica yn cael eu torri i lawr a’u symud er mwyn creu lle i blanhigion a choed eraill dyfu’n naturiol.

Y bwriad yw creu coedwig fwy amrywiol a fydd yn gynefin gwell i fywyd gwyllt a lle gwell i’r rhai sy’n ymweld â’r ardal.

“Bydd y gwaith yma’n amharu rhywfaint ar y bobol sydd eisiau dod yma am dro, ond buasai hi ddim yn ddiogel i adael mynediad i’r ardaloedd lle byddwn yn torri’r coed pan fydd y peiriannau mawr yn gweithredu,” meddai Jonathan Price, Coedwigwr Cymunedol Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Rydym yn gweithio’n galed i leihau’r anhwylustod dros dro gymaint ag y gallwn ni.”

Hwb i’r economi

Bydd y coed a gaiff eu torri i lawr yn cael eu hanfon i felinau llifio yn yr ardal a’u defnyddio ar gyfer pren adeiladu, eu troi’n byst ffensio, eu gwneud yn fyrddau sglodion neu eu defnyddio fel biodanwydd, gan roi hwb gwyrdd a swyddi i fusnesau lleol.

Bydd yr incwm a ddaw yn sgil eu gwerthu yn cael ei ail-fuddsoddi mewn coetiroedd fel Coedwig Pen-bre ar hyd a lled Cymru.