Yr SNP yw trydedd blaid fwyaf Prydain bellach o ran nifer ei haelodau, ar ôl cynnydd sylweddol dros y dyddiau diwethaf yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Erbyn prynhawn dydd Mawrth roedd aelodaeth y blaid wedi dyblu i dros 50,000, o’i gymharu â’r 25,500 o aelodau oedd ganddi bum diwrnod yn ôl ar y diwrnod y bu pobl yr Alban yn pleidleisio yn y refferendwm.

Mae ganddyn nhw bellach fwy o aelodau na’r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd â thua 44,000 aelod drwy Brydain gyfan.

Fe welwyd ymgyrch llawr gwlad enfawr yn y misoedd cyn y refferendwm, yn enwedig o blaid annibyniaeth, ac felly mae’n debygol fod yr SNP wedi elwa o’r brwdfrydedd gwleidyddol gafodd ei fagu ymysg yr ymgyrchwyr hynny.

Cynnydd y pleidiau llai

Mae pleidiau eraill sydd o blaid annibyniaeth hefyd wedi dweud fod eu haelodaeth wedi cynyddu, gyda’r Gwyrddion Albanaidd yn gweld eu nifer yn neidio o 2,000 i ryw 5,000, a Phlaid Sosialaidd yr Alban yn cael 1,600 o aelodau newydd.

Yn ôl y Blaid Lafur yn yr Alban, oedd yn erbyn annibyniaeth, maen nhw hefyd wedi cael “cannoedd” o aelodau newydd ers diwrnod y refferendwm – nôl yn 2010 roedd tua 13,000 o aelodau gan y Blaid Lafur Albanaidd.

Y Blaid Lafur sydd â’r mwyaf o aelodau ar draws Prydain yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, gyda rhyw 190,000 o bobl yn perthyn iddi.

Mae gan y Ceidwadwyr tua 135,000 o aelodau, ac mae UKIP a’r Gwyrddion wedi gweld cynnydd yn y misoedd diwethaf, gyda UKIP ar ryw 39,000 a’r Gwyrddion ar 14,000.

Yn ôl ffigyrau diwethaf Plaid Cymru nôl yn 2012, ar ôl i lawer o bobl ymuno â’r blaid wrth iddi ddewis arweinydd i olynu Ieuan Wyn Jones, roedd ganddi bron i 8,000 o aelodau.