Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi rhyddhau dogfen sy’n amlinellu sut y byddai’r blaid yn ailstrwythuro Mesur Cymru yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban yr wythnos diwethaf.

Law yn llaw a Mesur yr Alban, mae’r blaid yn galw am bwerau ychwanegol i Gymru megis darlledu, ynni, cyfiawnder, dŵr, rheilffyrdd, materion cyfansoddiadol a threfniadau etholiadol.

Mae’r ddogfen yn cynnwys llawer mwy o bwerau na sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd o dan Silk 2.

Mae pwerau ychwanegol wedi cael eu haddo gan San Steffan i’r Alban ac mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn ogystal ag arweinydd yr ymgyrch etholiadol nesaf, Dafydd Wigley, wedi dweud ei bod yn hanfodol nad yw “Cymru yn cael ei gwthio i’r cyrion”.

Cyfansoddiad Prydain

Ychwanegodd Leanne Wood: “Mae cyfansoddiad gwleidyddol yr ynysoedd hyn wedi newid am byth.

“Am gyfnod hir, mae pob newid cynyddol yng Nghymru wedi bod yn annigonol ac wedi methu a chyfateb i anghenion pobol Cymru.

“Byddai’n anfaddeuol ac yn annerbyniol petai ASau yn pleidleisio dros bwerau sylweddol newydd i’r Alban ond yn pleidleisio hefyd ar fesur eilradd i Gymru.

Y Pwerau

Dyma restr lawn o’r meysydd mae Plaid Cymru yn galw am gael eu datganoli’n llawn i Gymru:

• Plismona
• Cyfiawnder Troseddol a’r llysoedd
• Dedfrydu, Cymorth Cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron
• Gwasanaeth prawf a charchar
• Taliadau a thermau’r sector cyhoeddus
• Pwerau cynllunio ychwanegol
• Darlledu
• Ynni a Chyfoeth Naturiol
• Pwerau i elwa o’r cyfoeth naturiol
• Ystâd y Goron
• Dwr, gan gynnwys carthffosiaeth
• Porthladdoedd a harbwr
• Gwylwyr y Glannau
• Rheilffyrdd Cymru a’r ffin
• Cynlluniau Network Rail yng Nghymru
• Cyfyngiadau cyflymder ac alcohol
• Rholiadau bysus a thacsis
• Trefniadau etholiadol