Er i gyfarwyddwr cyllid newydd ddechrau yn ei swydd heddiw, nid yw hynny wedi atal y cwymp yng nghyfrannau Tesco wrth i ragor o fanylion ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi cael haf gwael.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod gan y cwmni archfarchnad gyfran o 28.8% yn y farchnad yn y 12 wythnos hyd at 14 Medi, ar ôl gostyngiad o 4.5% mewn gwerthiant.

Y llynedd, roedd gan yr archfarchnad gyfran o fwy na 30% yn y farchnad.

Ddoe, daeth hi i’r amlwg bod y cwmni archfarchnad wedi goramcangyfrif ei elw o £250 miliwn.

Fe wnaeth hynny i gyfrannau’r cwmni gwympo 12%, ei isaf mewn degawd, a dyw’r farchnad heb ymateb yn gadarnhaol heddiw i’r newydd fod cyfarwyddwr cyllid newydd yn ymuno a’r cwmni.

Bydd Alan Stewart yn ymuno a’r cwmni ar unwaith ar ôl i Tesco daro bargen i’w ryddhau yn gynnar o’i gytundeb gyda Marks & Spencer. Fe ymddiswyddodd o M&S ym mis Gorffennaf, ond nid oedd i fod i ddechrau ei swydd gyda Tesco tan 1 Rhagfyr.

Fe ddechreuodd prif weithredwr newydd yr archfarchnad, Dave Lewis, yn ei swydd ar ddechrau mis Medi.

Mae Tesco wedi gwahardd pedwar swyddog yn y DU o’u gwaith tra bod y cwmni’n ymchwilio i’r goramcangyfrif.

Gostyngodd cyfrannau Tesco 4% arall heddiw.