David Cameron
Mae David Cameron yn cefnogi’r ymosodiadau o’r awyr yn erbyn y grwp eithafol Islamic State (IS) yn Syria, ac am drafod pa gyfraniad all y Deyrnas Unedig ei wneud, meddai Downing Street heddiw.

Dywedodd Downing Street mewn datganiad y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio’r trafodaethau yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd dros y deuddydd nesaf – gan gynnwys un cyfarfod ag Arlywydd Iran – i drafod pa gyfraniad y gall y DU ac aelodau eraill o’r gymuned ryngwladol wneud tuag at y frwydr yn erbyn y grŵp o frawychwyr.

Mae America a phump o wledydd eraill o’r Gwlff a’r Dwyrain Canol wedi cymryd rhan yn yr ymosodiadau diweddaraf.

Dywedodd y Pentagon eu bod nhw wedi bod yn defnyddio awyrennau rhyfel a thaflegrau Tomahawk i ymosod ar IS.

Mae disgwyl i David Cameron ddefnyddio ei araith yn y Cenhedloedd Unedig yfory i ddatgelu rhagor o fanylion am gyfraniad y DU i’r ymgyrch.

Mae dyfalu cynyddol wedi bod y bydd yn dweud bod y DU am ymuno â’r ymosodiadau awyr – er eu bod nhw’n debygol o gael eu cyfyngu i Irac – lle fyddan nhw’n gweithredu ar wahoddiad y llywodraeth yn Baghdad.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto ar gyfraniad milwrol y DU yn erbyn IS.

Mae IS wedi cipio rhannau helaeth o dir yn Irac a Syria, ac sydd wedi dienyddio gweithiwr cymorth Prydeinig, David Haines, a dau newyddiadurwr Americanaidd.