Y Cynulliad
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi clywed ei bod yn “annhebygol iawn” y bydd dros £100,000 yn cael ei dalu nôl i Gomisiwn y Cynulliad, wedi i’r arian gael ei roi mewn cyfrif twyllodrus.
Mewn cyfarfod i drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 – 2014, fe ddaeth i’r amlwg fod £104,000 wedi cael ei dalu gan Gomisiwn y Cynulliad i gyfrif banc twyllodrus dros gyfnod o bedwar mis.
Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r twyll, ac mae arestiad wedi ei wneud.
Dywedodd y comisiynydd Peter Black AC ei fod yn “annhebygol iawn” y bydd y Comisiwn yn cael yr arian yn ôl.
Cafodd £71,000 ei dalu i’r cyfrif twyllodrus ym mlwyddyn ariannol 2013 – 2014 a’r gweddill yn y flwyddyn ariannol hon.
System daliadau
Yn ôl Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mewn ymateb i un digwyddiad prin o dwyll, rydym hefyd yn cryfhau ein dulliau rheoli sy’n ymwneud â chofnodi a dilysu data cyflenwyr.
“Mae’r ysgogiad ar gyfer y darn hwn o waith yn cynnwys yr angen i fod yn ymwybodol o’r galluoedd Technoleg Gwybodaeth sy’n esblygu’n barhaus sydd ar gael i bawb, ac sy’n cynyddu’r dulliau posibl o dwyll.
“Bydd y rheoliadau cadarnach yn helpu i sicrhau cywirdeb ein system daliadau a lleihau’r risg o ffynonellau allanol”.