Mae rhai o’r Cymry fu’n rhan o ymgyrch Ie yn yr Alban yn ddiweddar yn mynnu nad yw’r frwydr dros annibyniaeth ar ben er gwaethaf pleidlais Na’r wythnos diwethaf.
Yn y refferendwm ar 18 Medi fe bleidleisiodd pobl yr Alban o 55% i 45% o blaid aros yn rhan o Brydain, yn hytrach na ffurfio gwlad annibynnol eu hunain.
Llai na phythefnos cyn y bleidlais fe ddangosodd un pôl piniwn fod Ie ar y blaen, cyn i bleidiau gwleidyddol San Steffan ddod at ei gilydd i addo mwy o bwerau i’r Alban petai nhw’n aros.
Roedd hynny’n cynnwys addewid i beidio â diwygio fformiwla Barnett, sydd yn rhannu arian cyhoeddus i wledydd Prydain ac sydd yn rhoi mwy’r pen i’r Alban na rhannau eraill.
Ond mae amheuon eisoes wedi codi a fydd David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg yn gweithredu ar yr addewid hwnnw i ddatganoli pwerau sylweddol i’r Alban, wrth i lawer o’u Haelodau Seneddol ddechrau gwrthwynebu’r syniad.
Mae’r Ceidwadwyr nawr eisiau trafod pwerau i Loegr a allai olygu rheol ‘pleidlais Saesnig i ddeddfau Saesnig’ yn San Steffan, rhywbeth nad yw Llafur yn awyddus i’w gefnogi.
‘Dechrau’r daith’
Mae Albanwyr nawr yn poeni fod yr anghytuno gwleidyddol yn Llundain yn mynd i’w rhwystro nhw rhag cael rhagor o bwerau.
Fe ddangosodd un pôl piniwn y diwrnod ar ôl y bleidlais fod o leiaf 25% o’r rheiny a bleidleisiodd Na wedi gwneud hynny’n bennaf oherwydd eu bod yn disgwyl i San Steffan ddatganoli mwy o bŵer.
Fe awgrymodd y pôl hefyd mai pobl hŷn ar y cyfan oedd wedi gwrthwynebu annibyniaeth, gyda 71% o bobl 16 ac 17 oed wedi pleidleisio Ie.
Ac mae’r bardd Gruffudd Antur, un o’r rhai fu’n cefnogi pleidlais Ie yn yr Alban, yn dweud fod hynny’n rheswm i gredu nad yw’r frwydr honno ar ben.
“Roedd y rhwyg oedran yn ddinistriol, o ran y grŵp oed 65 oed a hŷn, efo dros 70% yn pleidleisio i aros yn yr Undeb,” meddai Gruffudd Antur.
“Ond efallai bod yna gynsail i hyn, fe welsom ni hynny’n ‘79 pan wrthodwyd Senedd a datganoli, ac yna yn ‘97 pan enillwyd hi. Felly mae’n bosib y gwelwn ni rywbeth tebyg yn fuan iawn – dechrau’r daith ydi hon, nid y diwedd.
“Yn y tymor byr maen siŵr y byddai annibyniaeth [i’r Alban] wedi cael effaith negyddol ar Gymru, ond yn y tymor hir mae’n rhaid i ni gadw golwg ar ein breuddwydion ni, ein dyheadau ni, a’n potensial ni fel cenhedloedd annibynnol, a chyflawni’r potensial hwnnw.
“Mae yna rywbeth yn yr awyr ar draws y byd ar hyn o bryd gyda mwy a mwy o wledydd yn mynnu hunanreolaeth – y gobaith yn y pen draw yw y byddai hynny’n arwain at annibyniaeth i Gymru.”
Amau’r addewid
Yn ôl Adam Jones, un arall fu’n ymgyrchu o blaid annibyniaeth yn yr Alban, fe allai addewid pleidiau San Steffan ddod nôl i’w brathu.
“Dwi’n credu fod hwn ond wedi rhoi ysgytwad go fawr i San Steffan a fi’n gobeithio’n wir nawr bydd hwn yn ei hunan yn ddigon i ysgogi’r drafodaeth bod pŵer ddim yn cael ei rannu’n gyfartal drwy’r Deyrnas Unedig,” meddai Adam Jones.
“Ond mae faint o eiriau gwag, a faint o eiriau didwyll sydd yna, yn gwestiwn arall.
“Dwi’n amheus o’r addewid achos mae e’n rhywbeth munud olaf, dy’n nhw heb gael amser i ystyried na thrafod y peth. Maen nhw wedi addo pob dim ond y lleuad i bobl yr Alban, a dwi ddim yn credu eu bod nhw’n mynd i allu gwireddu hynny.
“Bydd David Cameron ei hunan yn wynebu rhwyg a hollt o fewn ei blaid yn San Steffan, ac mae’r Blaid Lafur yn draddodiadol wedi’u rhannu ar y mater yma, felly alla’i ddim gweld ble maen nhw’n mynd i gael y gefnogaeth i weithredu ar y geiriau maen nhw wedi dweud.”