Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn wedi galw am ddatganoli 50% o dreth incwm i Gymru.
Gwnaeth Glyn Davies AS ei sylwadau ar ei flog dros y penwythnos a dywedodd y dylai’r dreth gael ei datganoli heb refferendwm, ac yn hytrach, ei rhoi ym maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Heddiw, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddweud sut y bydd Cymru’n casglu a rheoli ei threthi ei hun am y tro cyntaf ers 800 mlynedd wrth i bwerau dros drethi busnes, treth stamp a threthi tirlenwi gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Glyn Davies wrth Golwg 360 heddiw na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn “sefydliad go iawn” nes ei fod yn gyfrifol am godi a gwario arian ei hun.
Ddoe, roedd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon Peter Robinson wedi rhybuddio y byddai datganoli treth incwm yn anodd iawn ac yn costio llawer o arian.
‘Atebol i bobl Cymru’
Ond yn ôl Glyn Davies, dyw arweinwyr y gwledydd datganoledig ddim eisiau pwerau o’r fath oherwydd y byddai’n eu gwneud nhw’n atebol am yr arian fyddai’n cael ei godi a’i wario yn hytrach na dibynnu ar arian o San Steffan.
Dywedodd ei fod yn disgwyl i Lywodraeth Lafur Cymru wneud popeth posibl i atal pwerau treth incwm rhag cael eu datganoli – wrth gynnig refferendwm yn un – er mwyn cadw’r sefyllfa maen nhw ynddo ar hyn o bryd o fod yn gyfrifol am “un ochr o’r cyfriflyfr.”
Ond, meddai Glyn Davies, os yw’r Alban yn cael rheolaeth o 100% o dreth incwm yn dilyn y refferendwm yr wythnos diwethaf, ni all Cymru gael ei gadael ar ôl yn gyfan gwbl.
Meddai Glyn Davies AS: “Rwy’n awyddus i weld y Cynulliad yn tyfu i fod yn gorff llywodraethu sy’n atebol i bobl Cymru gyda chyfrifoldeb am godi a gwario arian eu hunain. Ond ni fydd y Cynulliad yn sefydliad go iawn nes ei fod yn gyfrifol ac yn atebol i bobl Cymru.”