Mae banc Barclays wedi cael dirwy o bron i £38 miliwn am beidio diogelu arian eu cwsmeriaid yn ddigonol.

Dyma’r ddirwy fwyaf erioed i’r Sefydliad Ymddygiad Ariannol (FCA) ei roi am fater sy’n ymwneud a chyfrifon cwsmeriaid.

Dywedodd yr FCA fod Barclays wedi methu a diogelu asedau’r cwsmeriaid gwerth £16.5 biliwn petai’r banc yn mynd i’r wal, a bod “gwendidau sylweddol” yn systemau’r banc rhwng 2007 a 2012.

Daw’r ddirwy flwyddyn wedi i Barclays orfod talu £1.1 miliwn am fater tebyg.

Mae’r banc wedi dweud na wnaethon nhw elw o’r camgymeriadau ac nad oedd eu cwsmeriaid wedi colli unrhyw arian.