Mae dynes a’i phlentyn  wedi cael eu lladd ar ôl cael eu taro gan drên mewn amgylchiadau “amheus” yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Bu farw’r ddau ar y safle yn Slough, Berkshire bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i orsaf drenau Slough toc cyn 9.45yb yn dilyn adroddiadau bod dau o bobl wedi cael eu taro gan drên.

Roedd yr heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd wedi eu galw i’r safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain: “Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus. Mae swyddogion yn ceisio adnabod y ddau berson fu farw ac mae ymchwiliad llawn ar y gweill.”

Mae’r orsaf drenau yn Slough wedi cael ei chau i’r cyhoedd tra bod yr ymchwiliad yn parhau, meddai’r cwmni First Great Western.

Am y wybodaeth ddiweddaraf dylai teithwyr ffonio National Rail ar 08457 48 49 50.