Caeredin
Mae rhai o ffigurau gwleidyddol amlycaf yr Alban wedi bod mewn gwasanaeth arbennig i hyrwyddo cymod yn y wlad ar ôl rhaniadau’r refferendwm yr wythnos ddiwethaf.

Daeth dros 1,000 o bobl i’r gwasanaeth yng nghadeirlan St Giles yng Nghaeredin y bore yma.

Yn eu plith roedd arweinydd yr ymgrych Better Together, Alistair Darling, gweinidog cyllid yr Alban, John Swinney, a phrif ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander.

Wrth arwain y gwasanaeth, galwodd arolygydd Eglwys yr Alban, y Gwir Barchedig John Chalmers, ar i’r Albanwyr roi eu gwahaniaethau o’r neilltu a gweithio gyda’i gilydd.

“Mae’r Eglwys yn chwarae ei rhan i’w gwneud hi ychydig yn haws i estyn llaw o gyfeillgarwch i’r rheini o’n cyd Albanwyr na chefnogodd yr un ochr ag a gwnaethom ni,” meddai.

“Nid sut y gwnaethom bleidleisio ar un diwrnod penodol yw’r hyn sy’n diffinio pwy ydym.

“Rhaid inni gymryd y cyfle i’n diffinio ein hunain gan ein hymroddiad i weithio gyda’n gilydd i adeiladu dyfodol yr Alban.”

Ar ddiwedd y gwasanaeth gofynnwyd i bawb yn y gynulleidfa ysgwyd llaw eu cymydog.