Owen Smith, AS Pontypridd a llefarydd seneddol Llafur ar Gymru
Ni fyddai’r Llywodraeth Lafur nesaf yn San Steffan yn datganoli pwerau i amrywio treth incwm yng Nghymru heb fod refferendwm yn cael ei gynnal yn gyntaf.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod pwerau trethu llawer cryfach, ynghyd â phwerau eraill, eisoes ar eu ffordd i’r Alban  ar sail addewid gan arweinwyr y tair prif blaid Brydeinig yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd cysgod-ysgrifennydd Cymru, Owen Smith, y byddai angen gwneud dadansoddiad manwl a fyddai datganoli hawliau i amrywio treth o fudd ariannol i Gymru cyn y byddai Llafur yn cefnogi camau o’r fath.

“Os bernir y byddai’n fuddiol, byddai’n rhaid gofyn barn pobl Cymru ar y mater, oherwydd dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i ddweud a fydden nhw o blaid pwerau o’r fath ai peidio,” meddai.

Dywedodd hefyd y byddai Llywodraeth Lafur yn ceisio sicrhau mwy o arian i Gymru ar ben yr hyn y mae Fformiwla Barnett yn ei ganiatáu ar hyn o bryd.

Tori’n cefnogi Prydain ffederal

Yn y cyfamser, mae gwrth-ddatganolwr amlwg o’r Blaid Dorïaidd wedi datgan ei gefnogaeth i’r syniad o Brydain ffederal.

Dywedodd David Davies, AS Mynwy, fod yn rhaid gwneud rhywbeth i setlo’r cwestiwn cyfansoddiadol yn Lloegr.

“Rhaid i Loegr gael yr un hawliau â Chymru a’r Alban os ydym am gadw Prydain gyda’i gilydd,” meddai.

“Ac er na fyddwn i wedi dewis mynd i lawr y llwybr datganoli yn y lle cyntaf, mae’n ymddangos mai trefn ffederal fyddai’r lleiaf o ddau ddrwg o gymharu â dewisiadau eraill.

“Os byddai hynny’n golygu mwy o bwerau i Gymru, yna mae’n bris y byddwn yn fodlon ei dalu am drefn sy’n deg â phob rhan o Brydain.”

Angen adeiladu consensws

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi galw ar i’r pleidiau gwleidyddol ddod at ei gilydd i drafod beth ddylai ddigwydd nesaf i Gymru.

Dywedodd y byddai mwy o obaith am ddatblygiadau cyfansoddiadol os bydd consensws ar y mater a Chymru’n siarad ag un llais.

“Rhaid sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed drwy Brydain,” meddai. “Ac mae’n haws i hynny ddigwydd os llwyddwn i adeiladu consensws nag os byddwn ni’n ffraeo ymysg ein gilydd.”