Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw ar arweinydd Llafur, Ed Miliband i gefnogi deddf newydd ar bwerau Cymru cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Dywed fod Mesur Cymru, fel y mae ar hyn o bryd, yn rhy wan a bod angen ei ddiwygio’n sylweddol cyn iddo gael ei basio gan senedd Prydain erbyn y gwanwyn.

“Tra bod arweinwyr pleidiau Prydain yn brysur yn paratoi eu cynlluniau ar gyfer Lloegr a’r Alban, mae Cymru unwaith eto wedi cael ei hanghofio,” meddai.

“Mae mwy na thair blynedd ers cychwyn proses Comisiwn Silk, ac rydym yn dal i ddisgwyl pasio ar ddeddfwriaeth ar yr adroddiad cyntaf.

“Yn yr Alban, mae plaid Ed Miliband wedi dweud wrth bleidleiswyr y bydden nhw’n cael eu £4 biliwn ychwanegol o gyllid trwy Fformiwla Barnett, er bod hyn yn golygu bod Cymru ar ei cholled o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn.

“Rhaid i blaid Ed Miliband adlewyrchu ewyllys pobl Cymru ac ymrwymo i ddeddf newydd ar gyfer Cymru, i’w chwblhau erbyn y gwanwyn nesaf, sy’n trosglwyddo pwerau Comisiwn Silk i Gymru erbyn y llywodraeth nesaf yn 2016.”