Nicola Sturgeon y tu allan i senedd yr Alban
Ddeuddydd ar ôl ymddiswyddiad Alex Salmond, mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd ei ddirprwy Nicola Sturgeon yn cymryd ei le fel Prif Weinidog yr Alban.

Mae’n amlwg bellach fod consensws cynyddol ymysg aelodau blaenllaw yr SNP  mai hi ddylai gael y swydd.

Ymysg yr aelodau cabinet sydd wedi cadarnhau na fyddan nhw’n sefyll yn ei herbyn, mae’r Ysgrifennydd Iechyd Alex Neil, yr Ysgrifennydd Addysg Mike Russell, yr Ysgrifennydd Cyllid a’r cyn-arweinydd John Swinney a Roseanna Cunningham, a safodd am yr arweinyddiaeth yn 2004.

“Byddaf yn cefnogi Nicola,” meddai Alex Neil. “Dw i’n meddwl ei bod hi’n bryd inni gael dynes yn Brif Weinidog. Hi yw’r person iawn ar gyfer y swydd.”

Hyd yn oed pe bai rhywun yn sefyll yn ei herbyn, y farn gyffredinol yw y byddai hi’n ennill yn rhwydd.

“Mae pawb yn cytuno gyda’r consensws mai Nicola a neb arall fydd yr arweinydd,” meddai un o wleidyddion blaenllaw’r SNP.

Er nad yw Nicola Sturgeon wedi datgan yn ffurfiol y bydd yn sefyll, roedd ei datganiad wrth ymateb i ymddiswyddiad Alex Salmond yn dweud na allai feddwl am fwy o fraint o na cheisio arwain y blaid.