Mae Alex Salmond wedi datgan y bydd yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Yr Alban ac Arweinydd yr SNP.

Yn dilyn colli’r refferendwm, fe ddywedodd ei bod yn amser i arweinydd newydd ddod ymlaen a symud y broses ddatganoli yn ei blaen.

Dywedodd ei fod yn credu y byddai ei blaid, y Senedd a’r Alban yn “elwa o arweiniad newydd”.

Ni fydd yn derbyn enwebiad i fod yn Arweinydd yr SNP yn eu cynhadledd fis Tachwedd, pan mae disgwyl y bydd yn camu o’r neilltu wrth i’w olynydd gael ei ethol.

Bydd yn parhau yn Aelod o Senedd Yr Alban dros Ddwyrain Aberdeenshire.

“Bu’n anrhydedd fy mywyd i wasanaethu’n Brif Weinidog Yr Alban,” meddai.

“Ond fel y bu i mi ddweud droeon yn ystod ymgyrch y refferendwm, nid yw hyn amdana i na’r SNP. Mae yn llawer iawn pwysicach na hynny.”