Dafydd Wigley
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael yr hawl i godi trethi, a hynny er mwyn cael mwy o arian i’w wario ar helpu’r economi.
Dyna neges yr Arglwydd Dafydd Wigley sy’n bendant bod angen i Gymru gael yr un grymoedd gwleidyddol ag sy’n cael eu cynnig i’r Alban yn sgîl y refferendwm ddoe.
Ond cyn cael yr hawl i amrywio trethi, mae Dafydd Wigley yn galw am newid y ffordd mae Cymru yn derbyn arian o Drysorlys Llywodraeth Prydain – trefn sy’n digwydd yn ôl Fformiwla Barnett.
Mae dau gomisiwn wedi amcangyfrif bod Cymru yn cael ei thangyllido hyd at £400m dan Fformiwla Barnett.
“Bysa rhywun yn disgwyl bod y swm hynny yn cael ei ddarparu yn ychwanegol at Barnett, hyd yn oed os ydy Barnett yn dal i redeg,” meddai Dafydd Wigley.
Mae’r Arglwydd Wigley yn dweud “os oes yna ryddid i godi trethi yng Nghymru” y dylid ei fod “ar gyfer gwariant sydd yn ychwanegol” at y bloc grant ddaw o Drysorlys Llywodraeth Prydain dan Fformiwla Barnett.
“Cyllido rhaglen cyfalaf sylweddol”
Yr ofn sydd wedi bod yw y byddai Llywodraeth Prydain yn caniatáu i Lywodraeth Cymru godi trethi, ond yn cwtogi ar y bloc grant ar yr un pryd.
Yn ôl dymuniad Dafydd Wigley fe fyddai’r arian o godi trethi yn ychwanegol i’r bloc grant “ar gyfer dibenion arbennig fel, er enghraifft, cyllido rhaglen cyfalaf sylweddol.
“Ac mae digon o bethau sydd angen eu gwneud yn nhermau addysg ac iechyd a ffyrdd ac ati , sydd angen buddsoddiad cyfalaf, ac mi fuasai’n helpu’r economi.
“Mae’n rhaid i ni fod efo’r llif arian sydd yn cyllido hynny, a dyna ble mae trethi ychwanegol yn dod i mewn – nid jest er mwyn gwario gwirion i ryw gyfeiriad neu gilydd, ond ar gyfer darparu rhaglen fuddsoddi sydd ei hangen i gael yr economi i symud.
“Dw i’n argyhoeddedig bod modd gwneud hyn, os ydy’r ewyllys gwleidyddol yn bodoli. Ein job ni ydy trio sbarduno hynny.”
Dim angen refferendwm
Nid yw Dafydd Wigley yn credu bod angen refferendwm cyn rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru amrywio trethi.
“Maen nhw’n awgrymu gymaint o newidiadau yn Yr Alban, heb sôn am refferendwm yn y cyd-destun yna…os ydy hynny’n egwyddor ar gyfer Yr Alban, yna mae yna egwyddor digon teg ar gyfer Cymru.
“Dw i’n derbyn pan mae sôn, fel pan fuo yna yn 2011, am roi pwerau deddfu i’r Cynulliad, iawn cael refferendwm.
“Y cwestiwn annibyniaeth yn codi yng nghyd-destun Cymru? Angen refferendwm ar gyfer hynny wrth gwrs.
“Ond does dim eisiau refferendwm ar gyfer pob newid sy’n digwydd yn y pwerau – be’ ydy’r pwynt o gael aelodau sydd wedi eu hethol os nad ydyn nhw’n gallu cymryd penderfyniadau?”
Barnett – “sialens”
Mae Dafydd Wigley yn cydnabod y bydd diwygio Fformiwla Barnett a sicrhau gwell chwarae teg i Gymru yn her.
“Mae’n rhaid derbyn yr egwyddor bod Cymru yn cael ei chyllido yn ôl ei anghenion, ac nid ar sail Fformiwla Barnett.
“Mae’r Blaid Lafur wedi dweud eu bod nhw’n gefnogol i hynny, ond maen nhw wedi ymrwymo i gadw Barnett i’r Alban, wedyn mae yna ddipyn bach o sialens.
“Gawn ni weld beth ydy agwedd y Torïaid tuag at hynny.”