Yn dilyn cadarnhad gan UEFA na chafodd Caerdydd ei dewis fel un o’r 13 dinas i gynnal Euro 2020 mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi son am eu siom.
‘‘Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn hynod o siomedig gyda’r newyddion hwn, ond maent am longyfarch y dinasoedd a gafodd eu dewis. Yr ydym yn credu y byddai y cyfleusterau sydd yn Stadiwm y Mileniwm yn ddelfrydol ar gyfer cynnal rhai o’r gemau. Yn ogystal â hynny yr oeddem wedi cynnig cynlluniau da ar gyfer llety a thrafnidiaeth. Yr oeddem wedi datgan y byddai unrhyw arian a fyddai yn dod fel canlyniad i gynnal gemau yng Nghaerdydd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau pêl-droed yn y cymunedau trwy Gymru. Ond wrth gwrs yr ydym yn parchu penderfyniad UEFA.”
Bydd gemau yn caewl eu cynnal yn Iwerddon a’r Alban, a’r ddwy gêm gynderfynol a’r ffeinal ei hun yn Lloegr.
Siom a phembleth
Mae Guto Llewelyn ymhlith nifer o gefnogwyr pêl-droed Cymru sydd wedi eu siomi.
‘‘Roeddwn wedi synnu wrth glywed, roeddwn wedi darllen adroddiad gan UEFA oedd yn canmol Caerdydd am eu cyfleusterau a’r awyrgylch. Mae Caerdydd wedi profi ei bod yn gallu cynnal gemau mawr yno ac wedi llwyddo. Mae Stadiwm y Mileniwm wedi’i leoli yng nghanol y Ddinas sydd yn cynnig awyrgylch wahanol i’r stadiymau modern sydd wedi cael eu hadeiladu yn bell allan o’r dinasoedd.’’