Guto Bebb
Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb wedi ymddiheuro i bartner busnes David Jones, cyn-Ysgrifennydd Cymru, am ei gyhuddo o fod yn un o dri awdur oedd yn gyfrifol am flog Thoughts of Oscar‘.
Yn Nhŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Guto Bebb gyhuddo’r cyfreithiwr Dylan Moore o fod yn rhannol gyfrifol am y blog oedd yn “ymosod, sarhau a thargedu” yn ogystal â chyhoeddi honiadau enllibus am bobol.
Fe wnaeth o hefyd gyhuddo Heddlu Gogledd Cymru o “gydweithio” gydag awduron y blog, ac o anwybyddu cwynion gan aelodau o’r cyhoedd oedd wedi cael eu “sarhau” ar-lein.
Roedd Dylan Moore yn gwadu’r honiadau gan ddweud fod Guto Bebb yn ei “daflu i’r bleiddiaid” a hynny heb unrhyw sail.
Ymddiheuriad
Mewn datganiad mae Guto Bebb wedi dweud ei fod yn anghywir i gysylltu Dylan Moore â’r blog ac y bydd yn gwneud datganiad yn San Steffan i gywiro hynny.
Mae’r dyn busnes Nigel Roberts eisoes wedi cyfaddef mai fo oedd unig awdur y blog.