Gareth Williams
Ni chafodd gwybodaeth ynglŷn â Dirprwy Brifathro o dde Cymru, sydd wedi ei garcharu am ysbïo ar blant ac o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, ei basio ymlaen i’r heddlu priodol am fwy na blwyddyn a hanner wedi iddo ddod i’r fei am y tro cyntaf.

Roedd yr asiantaeth CEOP yn ymwybodol fod Gareth Williams, 47, wedi prynu lluniau anweddus dros y we 19 mis cyn i Heddlu De Cymru allu cychwyn ymchwilio.

Cafodd y cyn-Ddirprwy Brifathro yn Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar ym mis Mai, wedi iddo bledio’n euog i 31 cyhuddiad oedd yn cynnwys creu delweddau anweddus a sbecian.

Roedd wedi cyfaddef gosod camerâu mewn toiledau er mwyn ffilmio plant ac i fod â mwy na 16,000 o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi cadarnhau bod y mater wedi cael ei gyfeirio atyn nhw a’u bod yn ystyried cynnal ymchwiliad.

Asesu

Yn groes i adroddiadau, fe ddywedodd llefarydd ar ran yr IPCC wrth golwg360 nad yw’r corff wedi cychwyn ymchwiliad i’r mater eto ond eu bod yn asesu’r wybodaeth sydd wedi dod i law:

“Mae mater wedi ei gyfeirio at yr IPCC sy’n trafod manylion gan yr Asiantaeth Drosedd Genedlaethol (NCA) am fethiant i ddarparu gwybodaeth sy’n dyddio nôl i 2012,” meddai llefarydd.

“Rydym yn asesu’r mater er mwyn gweld faint o ran fydd yr IPCC yn ei chwarae mewn unrhyw ymchwiliad fydd yn cael ei gynnal i’r methiant yma.

Mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wedi dweud ei bod yn “amhriodol” eu bod yn gwneud sylw ar y mater.

Achos tebyg

Mae’r CEOP wedi cael ei feirniadu yn y dyddiau diwethaf am fethu rhybuddio’r heddlu ynglŷn ag amheuon fod y cyn-feddyg plant, Myles Bradbury,  yn cam-drin ei gleifion yn rhywiol mewn ysbyty yng Nghaergrawnt.

Dydd Llun, fe blediodd yn euog i chwe chyhuddiad o gam-drin rhywiol ac 13 cyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol gyda phlentyn.

Cafodd y CEOP wybod yn 2012 fod Myles Bradbury wedi prynu ffilmiau anweddus dros y we, ond ni wnaethon nhw weithredu. Dywedodd yr NCA ei bod yn “annerbyniol” na chafodd y wybodaeth ei basio mlaen.