Carwyn Jones
Rhaid mynd i’r afael â’r ffaith fod Cymru yn cael £300m yn rhy ychydig o gyllid y flwyddyn gan Drysorlys Llywodraeth Prydain.

Dyna neges Prif Weinidog Cymru wrth iddo ymateb i’r bleidlais ‘Na’ yn Yr Alban.

Dywedodd Carwyn Jones ei bod yn “berffaith resymol gofyn am gyfran decach o’r pot.

“Mae’n bwysig ein bod yn cael yr hyn sy’n deg o ran nawdd er mwyn sicrhau bod ganddon ni’r Gwasanaeth Iechyd yr ydym i gyd ei eisiau.”

Hefyd pwysleisiodd bod angen  i Gymru fod yn rhan o unrhyw drafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.

Mae Prydain wedi cael “anaf difrifol” meddai ar ôl i David Cameron bron “gerdded yn ei gwsg tuag at ddinistr” drwy roi refferendwm i’r Alban.

Ond cadarnhaodd nad oedd y ddau Brif Weinidog wedi siarad yn dilyn y canlyniad.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain ei fod eisiau gweld Cymru “wrth galon” y drafodaeth ynghylch dyfodol Prydain. Ond mae’n bryd iddo ef “wrando ar lais y bobol,” meddai Carwyn Jones.

“Rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir i Lywodraeth Prydain bod yr addewidion a gafodd eu gwneud gan arweinydd y tair plaid ym Mhrydain yn ystod yr ymgyrch rŵan yn gorfod cael eu gweithredu. Byddai mynd yn ôl ar yr addewidion hynny yn gam gwag.

“Dw i hefyd yn glir bod angen trafodaethau am ddyfodol cyfansoddiadol Prydain. Mae hi’n allweddol bod bob sedd i bob gwlad yn y trafodaethau cyfansoddiadol hynny.

“Rwyf wedi galw am amser am gonfensiwn cyfansoddiadol, ers dwy flynedd rŵan. Byddai hynny’n amlinellu dyheadau pob gwlad ym Mhrydain. Dw i heb newid fy meddwl bod y Prif Weinidog yn anghywir i beidio â gwneud hyn ynghynt.”

Diwygio Barnett?

Mae Torïaid amlwg yn dweud bod angen newid y ffordd o rannu arian hefyd, sef trefn a elwir yn Fformiwla Barnett.

Heddiw aeth y cyn-Weinidog Amgylcheddol Owain Paterson ati i ddisgrifio Fformiwla Barnett fel trefn sy’n “achosi dicter gwirioneddol ar hyd a lled Lloegr.

“Anghyfiawn yw parhau gyda Fformiwla Barnett sy’n rhoi £1,600 y pen yn fwy i’r Alban na Lloegr, a disgwyl i drethdalwyr Lloegr – sy’n ei chael yn anodd dal dau ben llinyn ynghyd – barhau i dalu’r gost.”

Cymru yn haeddu’r un fath â’r Alban

Mae Dafydd Wigley, Aelod Plaid Cymru o Dŷ’r Arglwyddi, yn dweud bod Cymru angen yr un grymoedd ag sydd wedi eu haddo i’r Alban.

Meddai: “Rhaid i bwerau a gynigir i’r Alban gael eu cynnig i Gymru.

“Mae’r Deyrnas Gyfunol wedi newid am byth, a mater i bob plaid a chenedl yw dod ynghyd i sicrhau fframwaith cydradd i’r dyfodol.”