Er bod arweinwyr yr ymgyrch ‘Na’ wedi addo cadw’r drefn bresennol o ddosbarthu cyllid i’r Alban – dan yr hyn a elwir Fformiwla Barnett – mae Torïaid amlwg yn dweud bod angen newid.
“Addewid braidd yn fyrbwyll” oedd disgrifiad Boris Johnson, Maer Llundain, o gynnig criw Gwell Gyda’n Gilydd i gadw lefel gwariant cyhoeddus fel y mae yn Yr Alban.
Aeth y cyn-Weinidog Amgylcheddol Owain Paterson ati i ddisgrifio Fformiwla Barnett fel trefn sy’n “achosi dicter gwirioneddol ar hyd a lled Lloegr.
“Anghyfiawn yw parhau gyda Fformiwla Barnett sy’n rhoi £1,600 y pen yn fwy i’r Alban na Lloegr, a disgwyl i drethdalwyr Lloegr – sy’n ei chael yn anodd dal dau ben llinyn ynghyd – barhau i dalu’r gost.”
Dan drefn Fformiwla Barnett mae Cymru yn derbyn £300m yn llai nag y dylai o goffrau Trysorlys Llywodraeth Prydain, a gwleidyddion Cymreig o bob plaid wedi cwyno am hyn yn y gorffennol. Ond nawr mae Aelodau Seneddol Ceidwadol amlwg yn Lloegr yn codi twrw.