(Llun: PA)
Mae canlyniad ola’ refferendwm yr Alban wedi cadarnhau bod yr ochr Na yn ennill yn glir.

Yn yr Ucheldir, roedd 52.9% wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth a 47.1% o blaid – 87,739 o bleidleisiau yn erbyn 78,069.

Mae hynny’n golygu mai’r canlyniad terfynol trwy’r Alban yw 44.7% o blaid a 55.3% yn erbyn.

Dim ond pedair ardal oedd wedi pleidleisio o blaid, ond y fuddugoliaeth fawr i’r ochr Ie oedd ennill yn y ddinas fwya’, Glasgow.

Mae’r ddwy ochr a phob plaid wedi canmol lefel y bleidlais – mwy nag 87% – ac wedi dweud ei bod yn amhosib dychwelyd at y sefyllfa fel yr oedd hi.