Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad
Mae Llywydd y Cynulliad wedi galw eto am Gonfensiwn i benderfynu ar gyfansoddiad gwledydd Prydain.
Wrth ymateb i ganlyniad y refferendwm yn yr Alban, fe ddywedodd Rosemary Butler ei bod yn dal i gefnogi galwad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am gynllun o’r fath.
Mae’r syniad eisoes wedi ei anwybyddu gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron, yn ei ddatganiad yntau wedi’r bleidlais Na yn yr Alban.
Yr unig awgrym o ran cynnig i Gymru yw dilyn argymhellion Comisiwn Silk tros ddatganoli rhywfaint o drethi a grymoedd cyfyngedig eraill.
Sylwadau Rosemary Butler
“Rwy’n sicr o hyd bod angen Confensiwn Cyfansoddiadol ar gyfer y Deyrnas Unedig ac mae’n hanfodol y caiff Cymru ei chynrychioli’n gadarn yn y broses honno,” meddai Rosemary Butler.
“Nawr, gan fod pobol yr Alban wedi cael dweud eu dweud – mae’n hollbwysig fod gan bobol Cymru lais yr un mor gryf yn yr hyn sy’n digwydd nesa’.”
Roedd hi’n arbennig o falch, meddai, o lefel y bleidlais yn yr Alban a’r rhan a gafodd pobol ifanc dros 16 oed.