Logo tros dro'r Bencampwriaeth
Aeth Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, i Genefa a chlywed na fydd Cymru’n cael cynnal Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop yn 2020.
Roedd cais Cymdeithas Pêl-droed Cymru i gynnal rhai o gemau’r bencampwriaeth yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn cael ei ystyried gan y corff pêl-droed UEFA.
Cyn y cyhoeddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Ewrop, fe ddywedodd Ken Skates ei fod yn hyderus bod cais Cymru yn un “cryf”.
Ffeinal yn Wembley
Bydd rownd derfynol Ewro 2020 yn cael ei chwarae ar gae Wembley yn Llundain, ac mae’r Alban am gael cynnal gemau hefyd.