Gormod o bwyslais ar y gem ryngwladol?
Mae’r dyn a fu’n gadeirydd Rygbi Rhanbarthol Cymru tan iddo ymddiswyddo heddiw wedi rhoi nifer o rybuddion am ddyfodol y gêm ar lawr gwlad.
Neges Nigel Short i Undeb Rygbi Cymru yw fod angen “canolbwyntio ar lawr gwlad” a bod angen i’r gêm dyfu o’r gwaelod i fyny – un o achosion y gynnen rhwng y rhanbarthau a’r Undeb.
Pyramid – o’r gwaelod i fyny
Mewn datganiad wrth ymddiswyddo, dywedodd: “Mae’n egwyddor peirianyddol fod pyramid ddim ond mor gryf â’i sylfaen”.
Dywedodd ei bod yn anochel fod “y pyramid yn dymchwel yn y pen draw” os yw’n cael ei “or-lwytho o’r pen i lawr”.
Ychwanegodd fod rygbi’n “gonglfaen nifer o gymunedau” yng Nghymru.
“Os ydyn ni’n methu cadw’r sefyllfa’n iach ar lawr gwlad, byddwn ni i gyd wedi ein niweidio yn y pen draw.”
Y tîm cenedlaethol
Rhybuddiodd hefyd fod y tîm cenedlaethol mewn perygl o dangyflawni trwy chwarae gormod o gêmau yn ystod y tymor rhyngwladol.
Dywedodd fod angen cadw cydbwysedd “rhwng elw tymor byr a gwerth tymor hir”, ac mae camgymeriad yw “gweithredu yn y tymor byr”.
Pwysleisiodd fod angen ymdrechu’n gyson i wella’r gêm yng Nghymru, nid dim ond pan fo trafferthion yn codi.
Swyddogion newydd
Roedd yn siarad ar ôl i Rygbi Rhanbarthol Cymru gyhoeddi pwy fydd eu swyddiogion newydd yn sgil taro bargen gyda’r Undeb ar ôl blynyddoedd o wrthdaro.
“Mae gyda ni hanes, nid yn unig yn rygbi yng Nghymru ond yn y byd rygbi’n gyffredinol, o adael i broblemau gynyddu nes bod y llifddorau’n torri a bod newidiadau mawr yn digwydd i gyd ar unwaith, weithiau gyda chanlyniadau niweidiol,” meddai.
“Rhaid i ni feithrin diwylliant sy’n ceisio gwelliant drwy’r amser ac nid dim ond unwaith bob pum neu chwe mlynedd pan nad oes gennym ni ddewis.”