Un o'r ymgyrchwyr munud ola
BLOG BYW IOLO CHEUNG O’R CYFRI – A’R NEWYDDION DIWEDDARA’ – AR GOLWG 360 O 10 HENO YMLAEN

Mae nifer o Gymry’n parhau i deithio i’r Alban heddiw wrth i bobol y wlad bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth.

Cefnogwyr yr ymgyrch ‘Ie’ sy’n amlwg ar y trenau o Gymru wrth i Gaeredin baratoi ar gyfer canlyniad y bleidlais wleidyddol fwya’ yn ei hanes.

Mae rhai’n dweud eu bod yno i helpu yn yr ymgyrch a rhai’n dweud eu bod yno er mwyn bod yno os bydd y Deyrnas Unedig yn chwalu.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10yh heno, gyda disgwyl y bydd tua 4 miliwn o bobol wedi pleidleisio ar fod yn annibynnol neu beidio.

Ymgyrchu

Roedd llawer o Gymry eisoes wedi mynd yno yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda gwleidyddion a phobl gyffredin yn cynnig help llaw i’r ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn.

Ac er bod y pleidleisio’n dod i ben ymhen ychydig oriau, mae rhai’n gobeithio y gall un ymdrech hwyr i annog Albanwyr i fynd allan a phleidleisio wneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni’n gobeithio helpu allan gyda’r ymdrech olaf ‘get out the vote’ yng Nghaeredin y prynhawn yma,” meddai Osian Elias, sydd wedi teithio o Aberystwyth heddiw.

“Annog pobol i fynd allan a phleidleisio fydd e mwy na dim. Wedyn fyddwn ni’n gwylio’r canlyniad yn un o’r tafarndai yn y ddinas heno mwyaf tebyg.”

‘Rhy agos’

Mae Mared Ifan yn un o’r ymgyrchwyr sydd yno’n barod yn cynnig help llaw i’r ochr Ie, ac mae’n cyfaddef mai’r teimlad cyffredinol yw ei bod hi’n dal i fod yn rhy agos i broffwydo.

“Mae’r ymateb wedi bod yn gymysg [yng nghanol Caeredin] – ni wedi cael mwy o bobol yn cymryd sticeri Ie na’r rhai sydd ddim ishe nhw.

“Ni wedi cael cymysgedd o bobol – ond mae’n anodd dweud naill ffordd neu’r llall.”

‘Chwalu’r Undeb’

I rai Cymry, fodd bynnag, y prif reswm am deithio i Gaeredin heddiw yw’r gobaith o weld hanes yn cael ei greu.

“Roedden ni wedi bwcio hyn fisoedd yn ôl, ddim yn disgwyl y byddai hi mor agos,” meddai Iola o Wynedd.

“Felly ydan ni’n edrach ymlaen yn fawr at weld beth fydd yn digwydd rwan. Dw i’n dawel hyderus [am bleidlais Ie].

“Mae’r diddordeb mae hyn wedi’i godi yn yr Alban mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn anhygoel – mi fysa fo’n grêt gallu dod a hynny nôl i Gymru.”

“Os aiff hi’n bleidlais Ie, ydan ni eisio bod yn dystion i’r Undeb yn chwalu, yn lle mae’r daeragryn yn digwydd,” meddai Hefin Jones o Ben Llŷn.

“Mae rhywun wedi hen fynd heibio poeni am yr effaith ar Gymru.”