Y neges trydar
Mae’r chwaraewr tennis Andy Murray wedi ymyrryd ar y funud ola’ yn ymgyrch refferendwm yr Alban gyda neges glir i bleidleisio ‘Ie’.

Mewn neges ar y wefan gymdeithasol Twitter, mae’n dweud bod agweddau negyddol yr ymgyrch Na yn y dyddiau diwetha’ wedi ei argyhoeddi’n llwyr.

“Diwrnod mawr i’r Alban heddiw!” meddai yn ei neges trydar yn yr oriau mân, cyn ychwanegu … “Negyddiaeth yr ymgyrch na wedi newid fy meddwl yn llwyr ar hyn. Edrych ymlaen at weld y canlyniad. Amdani!”

Fe fydd yr ymgyrch Ie yn ystyried y neges yn fuddugoliaeth fach wrth i’r ddwy ochr droi at emosiwn yn eu negeseuon ola’ – Ie yn galw ar i’r pleidleiswyr gymryd eu dyfodol i’w dwylo’u hunain a Na yn mynnu mai gwladgarwch go iawn fyddai aros yn y Deyrnas Unedig.

Y pleidleisio’n dechrau

Mae’r bythau pleidleisio bellach wedi agor yn yr Alban lle mae disgwyl i bron 4 miliwn o bobol bleidleisio – un o’r lefelau pleidleisio ucha’ ers blynyddoedd.

Fe fyddan nhw’n wynebu dewis syml – annibyniaeth neu beidio – ond fe fydd y canlyniad hefyd yn cael effaith fawr ar Gymru.

Does yr un o’r pleidiau mawr wedi dweud beth fyddai eu polisi at Gymru pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol ond maen nhw wedi awgrymu y byddai’n cael rhywfaint rhagor o bwerau pe bai’r bleidlais yn ‘Na’.

Fe fydd y cyfri’n dechrau’n union wedi i’r bythau gau am ddeg heno, gyda disgwyl y canlyniadau lleol cynta’ tua 2 y bore a’r cwbl ar gael, o bosib, erbyn 6.

Blog byw a’r newyddion diweddara’ trwy’r nos ar Golwg360. Iolo Cheung yn y cyfri, cefnogwyr yn anfon negeseuon a’r holl newyddion diweddara’.