David Cameron
Mae David Cameron wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo os yw’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth yfory.
Dim ond diwrnod sydd i fynd nes i bobl yr Alban ddewis a ydyn nhw am fod yn wlad annibynnol neu ddim, ac mae disgwyl canlyniad y refferendwm i gael ei gadarnhau’n gynnar bore dydd Gwener.
Fe allai Cameron ddod o dan bwysau i ymddiswyddo fel Prif Weinidog ac arweinydd y Ceidwadwyr os yw pobl yr Alban yn pleidleisio Ie.
Ond heddiw fe fynnodd y Prif Weinidog y bydd yn aros yn ei swydd nes o leiaf yr etholiad cyffredinol nesaf, beth bynnag yw’r canlyniad.
“Dyw fy enw i ddim ar y papur pleidleisio,” meddai Cameron wrth ymweld â ffatri yn Fleet, Swydd Hampshire, heddiw.
“Beth sydd ar y papur pleidleisio yw ‘a yw’r Alban eisiau aros yn y Deyrnas Unedig, neu a yw’r Alban eisiau gwahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig?’
“Dyna’r unig gwestiwn fydd yn cael ei benderfynu ar nos Iau. Fe fydd y cwestiwn dros fy nyfodol i’n cael ei benderfynu gan etholiad cyffredinol Prydeinig yn fuan.”