Nikki Sinclaire
Mae cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP, Nikki Sinclaire wedi ymddangos gerbron llys, wedi’i chyhuddo o dwyll ariannol.
Mae Sinclaire, sy’n 45 oed ac a gollodd ei sedd yn Senedd Ewrop eleni, yn wynebu cyhuddiad arall o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn ymwneud â threuliau.
Yn Llys Ynadon Birmingham, ni chyflwynodd Sinclaire ble, ond mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Birmingham ar Ionawr 7.
Y cefndir
Cafodd Nikki Sinclaire ei chyhuddo ar ddiwedd ymchwiliad gan Heddlu West Midlands a Swyddfa Gwrth-Dwyll Ewrop.
Honnir ei bod hi wedi gwneud elw ariannol trwy dwyll a’i bod hi wedi hawlio treuliau’n anghyfreithlon rhwng 2009 a 2010.
Ym mis Gorffennaf, dywedodd Sinclaire y byddai’n amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiadau sy’n deillio o’r cyfnod pan oedd hi’n cynrychioli plaid UKIP.