Fe fydd corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn cyhoeddi’r canllawiau a chôd ymddygiad ar gyfer cysegru menywod yn esgobion yn ddiweddarach heddiw.
Mae’n dilyn pleidlais hanesyddol ar 12 Medi’r llynedd a welodd aelodau o fwrdd llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru yn pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth.
Cyn hynny, nid oedd merched yn cael eu hordeinio yn esgobion yn syth.
Cafodd y ddeddfwriaeth ei gohirio tan rŵan er mwyn paratoi’r cod ymddygiad, yn ôl yr Eglwys.
Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal dros y deuddydd nesaf ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan a bydd yn dechrau gydag anerchiad gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, fel Llywydd.
Agenda
Mae’r sefyllfa yn Gaza ac Irac ac offeiriadaeth ar gyfer pobol gydag anghenion ychwanegol ymysg yr eitemau eraill sydd ar agenda’r corff.