Edwina Hart
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi ail agor cyffordd 32 heddiw a fydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn gwella llif y traffig a diogelwch yng nghyfnewidfa Coryton.
Mae’r lôn newydd, fydd ynghyd â thechnoleg i reoli llif y traffig, wedi ei chynllunio i leihau tagfeydd ar ran brysur gylchfan Coryton.
Mae’r gwelliannau wedi costio £1.8 miliwn ac mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar gyffordd 33 – prosiect arall mae disgwyl fydd yn costio £5.2m.
Meddai Edwina Hart AC: “Mae hon yn rhan brysur iawn o’r rhwydwaith ffyrdd yng Nghaerdydd sy’n darparu cysylltiadau economaidd pwysig ar gyfer de ddwyrain Cymru.
“Bydd y lonydd newydd yn lleihau tagfeydd ar ddwy groesffordd brysur, gwella amseroedd teithio a diogelwch.
“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru i wella mynediad i swyddi a gwasanaethau a chryfhau ein heconomi.”