Fe fydd hyd at 60 o bobol o Brydain yn derbyn brechlyn yn erbyn Ebola fel rhan o arbrawf sy’n cael ei gynnal gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Rhydychen.
Gallai’r brechlyn gynnig gobaith yng ngorllewin Affrica, lle mae 53% o’r bobol sydd wedi cael eu heintio wedi marw.
Y gobaith yw y gallai’r brechlyn newydd atal un math o Ebola – math Zaire – sy’n parhau i ledu trwy’r cyfandir.
Dywed y brifysgol nad yw’r brechlyn yn cynnwys yr haint ac ni fydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn cael eu heintio.
Mae’r brechlyn eisoes wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ar anifeiliaid heb eu niweidio.
Wedi i’r brifysgol dderbyn nawdd o £2.8 miliwn, fe fydd modd datblygu’r brechlyn ar gyfer 10,000 o bobol wrth i’r arbrawf barhau.
Pe bai’n llwyddiannus, fe allai’r brechlyn fod ar gael yn y Gambia a Mali erbyn diwedd y flwyddyn.