Hashnod Wrecsam yn trendio ar Twitter
Roedd neithiwr yn noson wych i dîm pêl-droed Wrecsam, wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth o 1-0 i ffwrdd o gartref yn erbyn Barnet, sydd ar frig y Gyngres.

Ac mae’n amlwg fod y canlyniad wedi cyffroi llawer o gefnogwyr y Dreigiau neithiwr – cymaint nes i hashnod y clwb drendio drwy Brydain ar Twitter!

Yn fuan wedi’r chwib olaf yn Barnet roedd #WXM150 yn un o’r hashnodau uchaf ar restr trendio Prydain – a hynny er bod clybiau fel Lerpwl ac Arsenal yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr ar yr un pryd.

Mae’r hashnod wedi’i fabwysiadu gan gefnogwyr y clwb eleni er mwyn nodi 150 mlynedd o fodolaeth clwb Wrecsam.

Roedd gôl Rob Evans yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Wrecsam neithiwr ac maen nhw bellach wedi codi i chweched yn y tabl, pwynt yn unig y tu ôl i’r gemau ail gyfle.

Fe fydd angen eu cefnogwyr ar Wrecsam yn eu gêm nesaf gan eu bod nhw’n herio Caer yn y ddarbi leol i ffwrdd o gartref ar nos Lun 22 Medi, gêm fydd yn fyw at BT Sport.