Barnet 0–1 Wrecsam

Roedd gôl Rob Evans yn gynnar yn yr ail gyfnod yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn Barnet yn Stadiwm Hive nos Fawrth.

Mae’r Dreigiau bellach yn agosau at frig y Gyngres yn dilyn ail fuddugoliaeth mewn pedwar diwrnod.

Dim ond pedwar munud o’r ail hanner oedd wedi mynd pan roddodd Evans yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd gywir i’r gornel isaf o du allan i’r cwrt cosbi.

Barent a gafodd y gorau o’r cyfleoedd wedi hynny ond heb boeni gormod ar Daniel Bachmann rhwng y pyst i Wrecsam.

Dal eu gafael a wnaeth y Dreigiau yn y diwedd felly gan godi i’r chweched safle yn nhabl Cynrges Vanarama, dri phwynt yn unig tu ôl i Barnet sydd yn parhau ar y brig.

.

Barnet

Tîm: Astack, Stephens, Johnson (Muggleton 61′), N’Gala, Yiadom, Togwell, Villa Lopez (Marsh-Brown 56′), Weston, Cook, Akinde, Nurse (Gambin 62′)

Cardiau Melyn: Cook 27’, Marsh-Brown 77’, Muggleton 88’

.

Wrecsam

Tîm: Bachmann, White, Hudson, Smith, Ashton, Durrell, Clarke, Evans, Jennings, York, Moult (Bishop 80′)

Gôl: Evans 49’

Cerdyn Melyn: York 52’

.

Torf: 1,336