Caerdydd 0–1 Middlesbrough
Mae dechrau hynod siomedig Caerdydd i’w tymor cyntaf yn ôl yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi i Middlesbrough ddianc o Stadiwm y Ddinas gyda’r tri phwynt nos Fawrth.
Sgoriodd Enrique Garcia Martinez unig gôl y gêm yn yr ail funud wrth i Gaerdydd lithro tuag at waelodion y tabl.
Munud a hanner yn unig oedd ar y cloc pan groesodd Albert Adomah i alluogi Garcia Martinez i agor y sgorio, y Sbaenwr yn cael gormod o le o lawer ar ochr y cwrt chwech.
Sbaenwr arall gafodd gyfle gorau’r tîm cartref i unioni pethau ond anelodd Torres Ruiz heibio’r postyn yn dilyn gwaith creu Adam Le Fondre bum munud o ddiwedd y naw deg.
Cafwyd dros chwe munud o amser a ganiateir am anafiadau wrth i Gaerdydd chwilio am gôl ar ddiwedd y gêm ond fe ddaliodd Middlesbrough eu gafael ar y tri phwynt, er mawr anniddigwch i’r dorf gartref.
Mae Caerdydd yn llithro i’r ail safle ar bymtheg yn y tabl yn dilyn eu hail golled gartref o fewn pedwar diwrnod.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Connolly, Brayford, Ecuele Manga, Torres Ruiz, Pilkington (Javi Guerra 73′), Daehli (Le Fondre 58′), Whittingham, Adeyemi, Macheda (Gunnarsson 45′), Jones
Cerdyn Melyn: Torrez Ruiz 24’,
.
Middlesbrough
Tîm: Konstantopoulos, Ayala, Omeruo, Abella Perez (Nsue Lopez 64′), Friend, Reach, Leadbitter, Adomah, Clayton, Vossen (Tomlin 66′), Garcia Martinez (Bamford 87′)
Gôl: Garcia Martinez 2’
Cardiau Melyn: Ayala 1’, Abella Perez 37’
.
Torf: 19,711