Mae disgwyl i Ogledd Iwerddon fod y wlad gyntaf yn y byd i roi hawliau cyfartal i gleifion gyda phroblemau iechyd neu iechyd meddwl i wrthod triniaeth, yn ôl arbenigwr.

Bydd y Mesur Galluedd Meddyliol yn rhoi dewis cyfartal i bobol gyda phroblemau iechyd meddwl neu ddim, wneud penderfyniadau dros eu gofal yn ôl yr Athro Roy McClelland.

Ychwanegodd y byddai’n diddymu deddfau iechyd meddwl sy’n dyddio nôl degawdau.

Mae tua 1,000 o bobol yn cael eu cyfeirio at ysbytai seiciatrig neu anabledd yng Ngogledd Iwerddon bob blwyddyn.

“Ar hyn o bryd, fe all pobol gyda phroblemau iechyd meddwl gael eu gorfodi i gael triniaeth yn erbyn eu hewyllys. Nid yw eu gallu i dderbyn neu wrthod y driniaeth yn cael ei ystyried.”

“Ond pan fydd y ddeddf newydd yn cael ei basio, bydd yn golygu bod pawb, gan gynnwys cleifion bregus fel y byddar a’r henoed, yn cael yr hawl i dderbyn neu wrthod triniaeth – oni bai bod modd profi nad oes ganddyn nhw’r gallu i wneud y penderfyniad priodol.”

‘Arweinwyr byd’

Ychwanegodd yr Athro Emeritus o Brifysgol Belfast: “Nid yn unig mae hwn yn gyfle i wella rhan bwysig iawn o’r gyfraith, ond mae’n gyfle i fod yn arweinwyr byd hefyd.”