Mae rhai o Aelodau Seneddol y Torïaid yn Lloegr eisoes wedi dechrau beirniadu David Cameron am arwyddo addewid i bobl yr Alban ynglŷn â goblygiadau pleidleisio Na yn y refferendwm.
Ddoe ar flaen papur y Daily Record roedd addewid wedi’i arwyddo gan Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg yn dweud y byddai’r Alban yn cael rhagor o bwerau petai nhw’n aros yn y Deyrnas Unedig.
Roedd yr addewid hefyd yn dweud y byddan nhw’n cadw fformiwla Barnett, sydd yn penderfynu faint o arian sydd yn cael ei ddosbarthu i’r Alban ac sydd ar hyn o bryd yn rhoi mwy iddyn nhw y pen na rhannau eraill o Brydain.
Ond mae hynny wedi cythruddo rhai ASau, sydd ddim eisiau gweld yr Alban yn cael rhagor o arian na phwerau ar ôl y refferendwm ac sydd yn gandryll fod arweinwyr pleidiau San Steffan wedi arwyddo’r cytundeb heb ymgynghori gyda nhw.
San Steffan am rwystro pwerau?
Fe ddywedodd yr AS Christopher Chope wrth raglen World at One BBC Radio 4 y byddai ef yn pleidleisio yn erbyn rhagor o ddatganoli i’r Alban.
“Dw i’n sicr yn credu y dylai’r Albanwyr sylweddoli mai ‘addewid’ yw hwn … gan arweinwyr y pleidiau, ac nad yw’n gwarantu y bydd yn cael ei basio yn Senedd y Deyrnas Unedig,” meddai.
Yr un oedd y neges ar Twitter gan Phillip Davies, a ddywedodd: “Fydda i ddim yn pleidleisio i gadw setliad ariannu annheg i’r Alban beth bynnag mae Mr Cameron, Miliband a Clegg yn ei ddweud.”
Fe fynnodd cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru John Redwood fod angen i Loegr hefyd gael datganoli os yw’r Alban yn mynd i dderbyn unrhyw bwerau pellach.
Ac fe awgrymodd Bernard Jenkin y dylai rhagor o bwerau ariannol i’r Alban olygu na fyddai unrhyw AS o’r Alban yn cael bod yn Ganghellor yn San Steffan.
“Allwn ni fyth gael Canghellor Prydain Albanaidd yn gosod trethi Saesnig yn Lloegr yn y gyllideb flynyddol, ond nid yn eu hetholaeth eu hunain,” meddai Jenkin, gan ddweud y byddai angen prif weinidog a changhellor yn arbennig i Loegr.
‘Ie yw’r ateb’
Yn sgil yr ymateb hwnnw gan rai Aelodau Seneddol, mae’r ymgyrch o blaid annibyniaeth yn yr Alban wedi mynnu mai pleidlais Ie yn unig all warantu rhagor o bwerau.
“Mae’n amlwg bod prosiect panig yn fodlon dweud unrhyw beth yn y dyddiau diwethaf yma o ymgyrchu i geisio atal momentwm Ie – heblaw pa bwerau, os o gwbl, allen nhw gynnig,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch.
“Y realiti yw mai’r unig ffordd i sicrhau fod yr Alban yn cael yr holl bwerau sydd ei hangen arni i greu swyddi a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd yw pleidleisio Ie ar ddydd Iau – fel ein bod ni’n medru defnyddio’n cyfoeth enfawr i greu gwlad well a thecach.”
Dim ond diwrnod sydd i fynd nes y bydd pobl yr Alban yn mynd i bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth, ac mae disgwyl y bydd cyhoeddiad o’r canlyniad terfynol yn dod yn gynnar ar fore dydd Gwener.
Fe ddangosodd tri phôl piniwn neithiwr fod yr ymgyrch Na ar y blaen o 52-48%.