Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi wfftio addewid gan brif bleidiau gwleidyddol San Steffan i ehangu pwerau’r Alban os ydyn nhw’n pleidleisio Na ddydd Iau.
Dywedodd arweinydd yr SNP fod yr addewid gan David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg, oedd ar dudalen flaen papur y Daily Record heddiw, yn “gynnig munud olaf despret o ddim byd”.
Fe gwestiynodd Prif Weinidog yr Alban pa mor ddibynadwy oedd yr addewid hwnnw, gan fynnu nad oedd yn mynd i fod yn ergyd i’r ymgyrch Ie.
“Y tro diwethaf i un o’r arweinwyr yma wneud addewid ac arwyddo addewid oedd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg pan ddywedodd na fyddai’n cyflwyno ffioedd dysgu, ac wedyn yn codi nhw i £9,000 ar gyfer myfyrwyr Saesneg yn Lloegr,” meddai Salmond wrth raglen Good Morning Scotland.
“Mae’n esiampl berffaith o sut na fydd y cynnig munud olaf yma yn darbwyllo pobl yr Alban rhag cymryd y cyfle enfawr o roi’u dyfodol yn eu dwylo nhw ar ddydd Iau.”
Dim newid ar Barnett
Mae arweinydd y tair plaid Brydeinig yn dweud ar flaen y papur newydd eu bod yn cytuno fod angen trosglwyddo rhagor o bwerau i’r Alban, ac y byddai’r broses yn dechrau’r diwrnod ar ôl y refferendwm.
Mae gwleidyddion San Steffan wedi awgrymu y gallai hyn gynnwys mwy o bwerau dros dreth incwm a lles – ond dyw’r addewid heddiw ddim yn manylu beth yn union fydd y pwerau fydd yn cael eu cynnig.
Fe ddywedodd y datganiad hefyd y bydd San Steffan yn cadw Fformiwla Barnett, sydd yn penderfynu faint o arian mae Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru’n ei dderbyn.
Petai’r fformiwla’n cael ei ddiwygio, byddai’r Alban yn debygol o dderbyn llai o arian gan Lundain ond fe allai Cymru fod yn cael hyd at £300m y flwyddyn yn fwy.
Blog Gwleidyddiaeth Catrin Williams heddiw – Beth fydd dyfodol yr Alban?
‘Gorau o’r ddau fyd’
Y bore ma fe fynnodd yr Aelod Seneddol Llafur Douglas Alexander eu bod wedi bwriadu cynnig rhagor o bwerau ers peth amser.
“Yma yn yr Alban, rydyn ni wedi bod yn siarad am y pwerau yma ers misoedd,” meddai Alexander wrth BBC Breakfast.
“Beth rydym ni’n dweud ar dudalen flaen y Daily Record yw y gallwn ni gael y gorau o’r ddau fyd.
“Fe allwn ni gael Senedd Albanaidd gryfach ond gyda chryfder, sefydlogrwydd a diogelwch y Deyrnas Unedig.”