Shaun Wright, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog wedi ymddiswyddo ar ôl wythnosau o bwysau dros sgandal cam-drin plant yn Rotherham.

Roedd Shaun Wright wedi bod dan bwysau cynyddol ers cyhoeddi adroddiad beirniadol i gam-drin plant a phobl ifanc yn y dref.

Shaun Wright oedd y cynghorydd â chyfrifoldeb am wasanaethau plant yno rhwng 2005-2010.

Yn sgil cyhoeddi’r adroddiad, roedd  wedi gwrthsefyll galwadau iddo ymddiswyddo gan y Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Cartref, a’r Blaid Lafur.

Ond mewn datganiad a ryddhawyd heddiw gan ei swyddfa, dywedodd: “Mae fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog wedi dod yn amlwg, yn sgil barn gyhoeddus a sylw yn y cyfryngau, yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Alexis Jay.

“Mae hyn yn tynnu sylw oddi ar y mater pwysig – sef y 1,400 o ddioddefwyr a amlinellwyd yn yr adroddiad – ac o ddarparu cefnogaeth i’r dioddefwyr a dwyn y rhai sy’n gyfrifol am y troseddau erchyll yma o flaen eu gwell.

“Gyda hyn mewn golwg, rwy’n teimlo ei bod hi nawr yn amser i mi ymddiswyddo o fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd de Swydd Efrog – er mwyn y dioddefwyr hynny, er lles y cyhoedd yn ne Swydd Efrog ac i sicrhau bod materion pwysig a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu trafod a’u hystyried yn llawn.”