Fe allai UKIP ennill naw sedd yn yr etholiadau Cynulliad nesaf, yn ôl y pôl diweddaraf gan YouGov ac ITV fu’n ystyried y gefnogaeth i’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Mae’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur yn parhau i lithro gyda 36% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio dros y blaid yn etholiadau’r Cynulliad, un pwynt canran yn llai na mis yn ôl.

Mae’r Ceidwadwyr yn parhau’n ail ar 21%, gyda Phlaid Cymru ar 19%, UKIP ar 12%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.

Ond fe fyddai UKIP yn debygol o ennill eu holl seddi o’r bleidlais ranbarthol, gyda’r pôl yn awgrymu bod eu cefnogaeth yn codi i 17% yn hwnnw – a bod disgwyl i’r Blaid Werdd gael mwy na’r Democratiaid Rhyddfrydol hyd yn oed.

Dim ond un sedd etholaethol fyddai’n newid dwylo yn ôl canlyniadau’r pôl diwethaf, gyda Llafur yn colli Llanelli i Blaid Cymru.

Byddai’n eu gadael nhw ar 29 sedd yn y Cynulliad (-1), gyda’r Ceidwadwyr ar 11 (-3), Plaid Cymru ar ddeg (-1), a’r Democratiaid Rhyddfrydol y colli pob sedd heblaw am etholaeth Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.

UKIP fyddai’r prif enillwyr, gan gipio’u naw sedd i gyd oddi ar y rhestrau rhanbarthol.

Seddi’n newid yn San Steffan

Dangosodd y pôl hefyd fod cefnogaeth UKIP yn cynyddu yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol a’u bod nhw bellach ar 17%, y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr ond o flaen Plaid Cymru.

Llafur sydd fwyaf tebyg o elwa o ran seddau, fodd bynnag, gyda’r disgwyl y buasen nhw’n cipio Canol Caerdydd oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol a Gogledd Caerdydd oddi wrth y Ceidwadwyr.

Byddai’r Ceidwadwyr yn cipio Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol, tra bod Plaid Cymru’n cadw’i thair sedd bresennol.

Llafur yn llithro

Wrth ymateb i’r ffigyrau diweddaraf mewn blog ar wefan ClickOnWales, dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru eu bod yn parhau â’r patrwm diweddar o gefnogaeth Lafur yn disgyn.

“Er bod Llafur dal ymhell ar y blaen, mae’n bôl arall sydd yn dangos fod ei chefnogaeth yn cwympo ychydig,” meddai Roger Scully.

“Y sgôr o 38% [ar gyfer etholiad San Steffan] yw un isaf Llafur mewn unrhyw bôl Cymreig ers etholiad cyffredinol 2010.

“Mae gostyngiad bychan y Ceidwadwyr yn eu gweld nhw’n mynd nôl i’r lefel o gefnogaeth maen nhw fel arfer yn ei gael mewn polau Cymreig dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae cefnogaeth Plaid Cymru’n gyson … ac er nad yw’n newyddion gwael, fe fyddan nhw siŵr o fod yn siomedig nad ydyn nhw wedi llwyddo i wella.

“Yn y cyfamser – efallai ar ôl y newyddion fod Douglas Carswell wedi symud i UKIP, ychydig cyn i’r pôl gael ei gynnal – mae cefnogaeth UKIP yn San Steffan yn parhau i godi.”

Dadansoddiad digon tebyg sydd ganddo ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, heblaw bod cefnogaeth UKIP ar gyfer etholiadau’r Cynulliad wedi cynyddu fel y mae wedi ar gyfer San Steffan.

Ond mae’n newyddion da i’r blaid honno ar y cyfan.

“Mae’r amcangyfrifon yn awgrymu’r posibilrwydd, o ganlyniadau’r pôl hwn, y gallai UKIP ddod yn rym pwysig yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan wneud hynny’n bennaf ar draul y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol,” ychwanegodd Roger Scully.