Stephen Sutton
Mae elusen ganser wedi datgelu cynlluniau ar gyfer defnyddio’r £5 miliwn gafodd ei godi gan fyfyriwr 19 oed fu farw o ganser.
Bu farw Stephen Sutton o Burntwood, Swydd Stafford ym mis Mai ar ôl dod i sylw’r cyhoedd am lunio rhestr o bethau yr hoffai eu cyflawni cyn iddo farw, oedd yn cynnwys codi £10,000 i elusen.
Cyhoeddwyd ei fod wedi llwyddo i godi £5 miliwn i’r Teenage Cancer Trust – y swm mwyaf i’r elusen erioed ei derbyn.
Y Cynlluniau
Bydd £2.9 miliwn yn cael ei ddefnyddio i wella canolfannau Teenage Cancer Trust ledled Lloegr a’r Alban a £1.2 miliwn yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi nyrsys canser a staff cynorthwyol.
Yn ogystal, bydd 50 o ysgoloriaethau yn cael eu sefydlu ar gyfer myfyrwyr ol-radd ym Mhrifysgol Coventry.
Bydd hanner miliwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol i gleifion canser ifanc a £200,000 yn cael ei roi at gostau teithio’r cleifion i ddigwyddiadau elusennol.
Dywedodd ei fam ei bod yn “anhygoel o falch” o waith ei mab.