Mae adroddiad newydd yn dangos bod prisiau tai wedi codi i’w lefel uchaf erioed dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl yr adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cododd prisiau tai 11.7% y llynedd ac mae tai nawr yn costio £272,000 ar gyfartaledd.
Gwelodd sawl rhanbarth yn y DU brisiau eiddo yn codi eto ym mis Gorffennaf, gyda thai dwyrain canolbarth Lloegr, gorllewin canolbarth Lloegr a de orllewin Lloegr bellach yn ymuno â Llundain, y dwyrain a’r de ddwyrain drwy gyrraedd prisiau uwch nag oedden nhw cyn yr argyfwng ariannol yn 2007/08.
Mae gwerth eiddo yn Llundain yn parhau i godi’n gyflymach na gweddill y wlad, gan godi 19.1% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol a chodi pris eiddo ym mhrifddinas Lloegr i £514,000 ar gyfartaledd.
Cododd gwerth eiddo ar draws y DU 1.6% rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni.
Yng Nghymru, roedd prisau tai wedi codi 7.4% yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf. Mae tai yng Nghymru nawr yn costio £171,000 ar gyfartaledd.